Ynghylch Ask Three Questions

Mae Ask Three Questions yn ddull newydd o nodi gorfodaeth a rheolaeth o fewn perthynas.

Gwybodaeth Cyfranogwyr

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn ein hastudiaeth ymchwil Ask Three Questions. Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac ni fydd posib eich adnabod os cymerwch ran. Os cytunwch i gymryd rhan, bydd angen i chi ateb 12 cwestiwn.

Ynglŷn â'r astudiaeth

Mae’r astudiaeth hon yn ymwneud â gorfodaeth a rheolaeth perthynas gynnar di-gorfforol, sydd o bwys oherwydd ei fod yn aml yn arwain at gamdriniaeth gorfforol. Rydym yn chwilio am gyfranogwyr 18 oed neu hŷn sydd mewn perthnasoedd ar hyn o bryd. Bydd cymryd rhan yn yr ymchwil yn cymryd tua 5 munud o’ch amser.

Pwrpas yr ymchwil

Pwrpas yr ymchwil yw dilysu’r offeryn Ask Three Questions.

Pam ydw i wedi cael gwahoddiad?

Y nod yw recriwtio cyfranogwyr sydd mewn perthynas.

A oes rhaid i mi gymryd rhan?

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Chi sydd i benderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio. Os ydych yn cytuno i gymryd rhan, gofynnir i chi gydsynio’n ddigidol. Gallwch dynnu’n ôl heb roi rheswm cyn i’ch data gael ei gyflwyno trwy gau eich tab porwr.

Beth fydd yn digwydd i mi os cymeraf ran?

Os cytunwch i gymryd rhan, bydd angen i chi ateb 12 cwestiwn.

Treuliau a thaliadau

Ni chewch eich talu am eich amser.

Pa ddata fydd yn cael ei gasglu?

Byddwn yn casglu atebion cwestiynau caeedig anhysbys am eich perthynas.

Beth yw'r anfanteision posibl o gymryd rhan?

Efallai y byddwch yn canfod rhai cwestiynau yn rai sensitif. Fodd bynnag, gallwch ddewis ‘Mae’n well gennyf beidio â dweud’ os nad ydych am ateb.

Beth yw'r buddion posibl o gymryd rhan?

Efallai na chewch unrhyw fuddion personol uniongyrchol o gymryd rhan, ond gall y rhai sy’n cael eu gorfodi a’u rheoli mewn perthynas elwa o ganlyniadau’r gwaith hwn.

A fydd fy nata yn cael ei gadw'n gyfrinachol?

Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu. Bydd y data’n cael ei storio’n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw Data Agored Keele University. Bydd data dienw yn cael ei rannu’n gyhoeddus ar ddiwedd y prosiect ac yn cael ei rannu’n agored.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf am barhau â'r astudiaeth?

Gallwch roi’r gorau i gymryd rhan trwy gau eich tab porwr. Sylwch na fydd hi’n bosibl i chi dynnu’ch data yn ôl ar ôl i chi ei gyflwyno gan fod data’n cael ei gyflwyno’n ddienw.

Beth os oes unrhyw broblem?

Os oes gennych gwestiwn, bryder neu gŵyn am yr astudiaeth hon, dylech gysylltu â’r ymchwilwyr yn gyfrinachol trwy yrru ebost at AskThreeQ@gmail.com gan adael y llinell pwnc yn wag. Bydd datgeliadau trwy ebost yn cael eu trin mewn dull sensitif.

Os na chaiff eich pryder neu’ch cwyn ei datrys gan y tîm ymchwil, dylech gysylltu â Phwyllgor Moeseg Ymchwil FMHS drwy yrru ebost at health.ethics@keele.ac.uk

Pwy sy'n ariannu'r ymchwil?

Mae’r ymchwil hon yn cael ei hariannu gan Keele University Institute for Global Health and Wellbeing.

Pwy sydd wedi adolygu'r astudiaeth?

Mae ymchwil sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol yn cael ei adolygu gan bwyllgor moeseg i sicrhau bod urddas a lles cyfranogwyr yn cael eu parchu. Mae’r astudiaeth hon wedi cael ei chymeradwyo’n foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran Keele University FMHS.